Daniel Rowland Centre & Network: for Welsh-speaking and bilingual ministry in Wales

The Daniel Rowland Network is a new partnership between Union School of Theology and those sharing the gospel in Welsh-speaking and bilingual settings in Wales.

We’re thrilled that Dr. Rhodri Glyn, pastor of Capel y Ffynnon, Bangor, will be joining us as the Coordinator of this network of pastors and churches. He’ll be leading the network to help provide theological training in Welsh and to foster the growth of co-operation and church planting in Wales.

In conjunction, the new Daniel Rowland Centre will be housed within the UST Library, together with an extensive collection of theological works in Welsh. Rhodri says, “In partnership with Union, we’re praying that the Daniel Rowland Network will be a catalyst for new gospel partnerships and growth in contemporary Wales, as we connect with and plumb resources from God’s mission and life-giving work here in the past”.

Dr. D. Eryl Davies comments:

“This is a major new initiative to support and encourage Welsh language pastors and bilingual contexts in Wales. I am delighted to be able to commend this venture , especially under the leadership of Rev. Dr. Rhodri Glyn, Bangor. I am praying that under the Lord's blessing this Network will serve to advance the Gospel among Welsh speakers and learners.”

If you’d like to explore ways to get involved and partner with the Daniel Rowland Network, please email rglyn@ust.ac.uk

 

Canolfan a Rhwydwaith Daniel Rowland: ar gyfer gweinidogaeth Gymraeg a dwyieithog yng Nghymru

Partneriaeth newydd yw Rhwydwaith Daniel Rowland rhwng Ysgol Ddiwinyddiaeth Union a rhai sy’n rhannu'r Efengyl yn y Gymraeg, neu mewn cyd-destunau dwyieithog yng Nghymru.

Rydym wrth ein bodd fod Dr. Rhodri Glyn, gweinidog Capel y Ffynnon, Bangor wedi ymuno â ni fel Cydlynydd y rhwydwaith yma o weinidogion ac eglwysi. Amcan y rhwydwaith yw darparu hyfforddiant diwinyddol cyfrwng Cymraeg gan feithrin mwy o gyd-weithio cenhadol a phlannu eglwysi yng Nghymru.

Yn ychwanegol, caiff Canolfan Daniel Rowland ei sefydlu yn Llyfrgell UST ym Mhen y Bont ar Ogwr, fydd yn cynnwys casgliad helaeth o weithiau diwinyddol Cymraeg. Meddai Rhodri,  “Rydym yn gweddïo y bydd Rhwydwaith Daniel Rowland a’r bartneriaeth gydag Union yn sbarduno ymdrechion i rannu’r Efengyl yn y Gymru gyfoes, gyda'r gobaith y cawn ein hysbrydoli wrth ryfeddu o’r newydd at waith Duw yma yn y gorffennol.”

Dywed Dr. D. Eryl Davies -

“Dyma gynllun pwysig i gefnogi ac annog gweinidogion Cymraeg a’r rhai sy’n gweithio mewn sefyllfaoedd dwyieithog yng Nghymru. Rwy’n llawenhau wrth gymeradwyo’r fenter, yn enwedig o dan arweiniad y Parch. Ddr. Rhodri Glyn, Bangor. Gweddïaf  y bydd y Rhwydwaith o dan fendith Duw yn hybu lledaeniad yr Efengyl ymhlith Cymry Cymraeg a dysgwyr.”

Os oes gennych ddiddordeb cydweithio â'r Rhwydwaith, neu os hoffech wybodaeth bellach, croeso i chi anfon e-bost at rglyn@ust.ac.uk

Previous
Previous

Individual MTh Biblical Counselling & Care in the Local Church: Module Application Now Open

Next
Next

Study theology wherever you are with new online Learning Communities